Twll Bach Y Clo by Plethyn Lyrics
Roedd cap nos yr eira ar gopa pob bryn
A rhew wedi gwydro pob dwr, ffos a llyn
A Gwenno’n gweu hosan wrth olau’r tân glo
A Huwcyn oedd yn aros wrth dwll bach y clo
Clywch, clywch, fechgyn, clywch, clywch, clywch!
Mae’r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch

Y gath oedd yn gorwedd yn dwrch ar y mat
A’r tad yn pesychu wrth smocio ei giat
Y fam oedd yn ffraeo fel dynas o’i cho’
A Huwcyn oedd yn crynu wrth dwll bach y clo

Y fam yn methu deall fod Gwenno mewn gwanc
Mor wirion â charu rhyw lefan o lanc
A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o
A’i galon fach yn crynu wrth dwll bach y clo

Y tad aeth i fyny i’r lloffta uwchben
A’r fam roes agoriad y drws dan ei phen
Ond Gwenno arhosodd i nyddu’r tân glo
‘Rôl dwedyd gair yn ddistaw bach drwy dwll bach y clo

‘Roedd swn y dylluan fel boda yn y coed
A’r ci bach yn cyfarth wrth glywed swn troed
A Huwcyn yn dianc fel lleidr ar ffo

A chyn pen y flwyddyn roedd Gwenno Jones yn wraig
A Huwcyn yn hwsmon i fferm Tan-y-Graig
A chanddynt un baban, y glana’n y fro
Ac arno roedd man geni – llun twll bach y clo!