Song Page - Lyrify.me

Lyrify.me

Dybyl Jin A Tonic by Meinir Gwilym Lyrics

Genre: pop | Year: 2003

Cerdded strydoedd sy'n ddiarth, un o'r gloch y bore
A'r unig le sy'n agored ydi Sanjay's Cafe-bar
Ma mhen i'n troi yn chwil a dwi'n sdagro at y bar
"Cariad gini sgriw yn rhydd, oes gen ti un sbar?"

CHORUS:
A dwi'sho dybyl jin a tonic, sgwrsio efo sgitsoffrenic
Dim ond fo a fi yn y bar, yn chwerthin ar y boi efo'r gitar

"Y ddinas yn fy nghuro'n oer, dwi rioed di bod mor alltud,"
"Na finna," medda fo reit swil "Ond gwranda di yn astud; tria di dy ora
I fod yn glen bob bora ag mi weli cyn bo hir y bydd petha'n dod yn well."
Ag wrth dynnu ar i sigaret a rwbio'i llgada cochion

Efo dybyl jin a tonic, sgwrsio efo sgitsoffrenic
Dim ond fo a fi yn y bar, yn chwerthin ar y boi efo'r gitar

A dim ond fo a fi
Dim ond fo a fi
Dim ond fo a fi yn y bar
Yn chwerthin ar y boi
Chwerthin ar y boi
Chwerthin ar y boi efo'r gitar
Ag wrth dynnu ar i sigaret a rwbio'i llgada cochion
Tynnu'i law drwy'i wallt wir brown
A dangos ei ddannedd budron
Mae'n deud, "Os ti'n byw'n y ddinas rhyr hir
T'in clywed lleisiau. Ar fy ngwir."

Dwi'sho dybyl jin a tonic, sgwsio efo sgitsoffrenic
Dybyl jin a tonic
Dybyl jin a tonic
Dybyl jin a tonic